Croeso i wefan Cyngor Cymuned

Pennal a’r cylch.

Mae’r ardal hon wedi ei lleoli yn Ne Meirionnydd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Mae Pennal yn bentref hanesyddol iawn ac amaeth yw ei brif gyflogwr. Dilynir yr afon Ddyfi i’r gorllewin ac yn rhedeg trwy’r pentre mae’r A493 sydd yn arwain i Cwrt a thair milltir ymhellach i gornel Fron Goch lle gwelir yr Afon Ddyfi yn rhedeg i mewn i Fae Ceredigion. Ardal odidog o brydferth yw Pennal lle mae’r môr yn cwrdd a’r mynyddoedd ac yn eistedd o fewn Biosffer y Ddyfi. Mae’r bont yn rhan anatod o’r pentref lle gwelir yr afon Sychan yn rhedeg or mynyddoedd i’r Ddyfi.

Cyngor Cymuned Pennal Community Council © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Croeso i wefan Cyngor Cymuned

Pennal a’r cylch.

Mae’r ardal hon wedi ei lleoli yn Ne Meirionnydd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Mae Pennal yn bentref hanesyddol iawn ac amaeth yw ei brif gyflogwr. Dilynir yr afon Ddyfi i’r gorllewin ac yn rhedeg trwy’r pentre mae’r A493 sydd yn arwain i Cwrt a thair milltir ymhellach i gornel Fron Goch lle gwelir yr Afon Ddyfi yn rhedeg i mewn i Fae Ceredigion. Ardal odidog o brydferth yw Pennal lle mae’r môr yn cwrdd a’r mynyddoedd ac yn eistedd o fewn Biosffer y Ddyfi. Mae’r bont yn rhan anatod o’r pentref lle gwelir yr afon Sychan yn rhedeg or mynyddoedd i’r Ddyfi.

Cyngor Cymuned Pennal Community Council © 2024

Website designed and maintained by H G Web Designs